Trafod Hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn yn y Senedd

Dydd Gwener 13 Hydref 2023

Yr wythnos hon, mae Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru wedi ysgrifennu at Peredur Owen Griffiths AS i gynnig cymorth ar ei Gynnig Deddfwriaethol  ar hyrwyddo perchenogaeth gyfrifol ar gŵn. Ddydd Mercher, cyflwynodd Peredur Owen Griffiths AS Gynnig Deddfwriaethol i hyrwyddo perchnogaeth cŵn cyfrifol yng Nghymru, yn ogystal â datblygu canllawiau newydd i unrhyw un sydd am fod yn berchen ar fridiau cŵn penodol.

 

Cafodd y cynnig hwn gefnogaeth yn y Senedd, gyda chymeradwyaeth unfrydol yr Aelodau. Nododd Lesley Griffiths AS, Gweinidog dros Faterion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd, y bwriad i weithredu ar drwyddedu cŵn, gan gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar y pwnc.

 

Mae Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru yn croesawu’r ddadl hon, a chefnogaeth unfrydol y Senedd ac yn edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau’r Senedd ar berchnogaeth gyfrifol o gŵn yn y dyfodol.

Yn ôl