Mae Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru (CAWGW) yn falch o gyhoeddi ei gadeirydd newydd, Bethan Sayed

Dydd Gwener 29 Hydref 2021

Mae Bethan wedi cefnogi materion sy’n ymwneud â lles anifeiliaid ers tro byd ac mae’n llais gwybodus ac uchel ei barch yng ngwleidyddiaeth Cymru ers blynyddoedd lawer fel cyn-aelod o’r Senedd dros Dde-orllewin Cymru.

Mae CAWGW yn falch iawn o gael cyfoeth o wybodaeth ac angerdd Bethan wrth iddi ymgyrchu dros:

  • Ddeddfwriaeth bridio cŵn gryfach i sicrhau arferion lles uchel
  • Rheoleiddio bridio cathod i sicrhau bod cathod bach yn cael eu bridio mewn amodau lles uchel
  • Gwella’r system microsglodynnu orfodol ar gyfer cŵn
  • Cyflwyno microsglodynnu gorfodol ar gyfer cathod sy’n berchen i bobl

Mae anifeiliaid anwes yn rhan bwysig o’r teulu i lawer o bobl ledled Cymru ac mae CAWGW yn gweithio ar amrywiaeth eang o faterion i helpu i wella lles yr holl anifeiliaid anwes. Yng Nghymru, mae Adroddiad diweddaraf PDSA ar Les Anifeiliaid Anwes yn dangos bod gan 26% o boblogaeth Cymru gath, a bod gan 30% gi. Credir bod pobl yng Nghymru yn berchen ar oddeutu 700,000 o gathod a 600,000 o gŵn.

Mae aelodau CAWGW yn brif elusennau lles anifeiliaid ac fe’u cefnogir gan aelodau cyswllt sydd, gyda’i gilydd, yn darparu gwasanaethau amhrisiadwy i anifeiliaid anwes yng Nghymru. Mae’r grŵp yn rhannu’r un budd ac mae ganddo arbenigedd cyfun sylweddol ym maes anifeiliaid anwes, gan gronni gwybodaeth ac adnoddau fel grŵp sector yng Nghymru i ganolbwyntio’n llwyr ar wella lles anifeiliaid anwes.

 

Wrth ystyried ei rôl newydd, dywedodd Bethan:

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio fel Cadeirydd CAWGW wrth iddo ymgyrchu i wella bywydau anifeiliaid anwes yng Nghymru. Ers i mi fabwysiadu cwningen pan oeddwn yn blentyn, rydw i wedi teimlo’n angerddol iawn dros les anifeiliaid ac yn gwybod y cysur, y gefnogaeth a’r cariad y mae anifeiliaid anwes yn eu cynnig.

Er bod llawer wedi’i gyflawni, mae llawer i’w wneud o hyd i godi safonau lles anifeiliaid anwes i lefel briodol yng Nghymru.

Byddaf yn gweithio gyda’r elusennau a’r mudiadau sy’n rhan o CAWGW i ddarparu atebion ac i ymgyrchu dros newid.”

 

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths:

“Hoffwn longyfarch Bethan ar ei rôl newydd fel Cadeirydd newydd Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru a dymunaf bob llwyddiant iddi.

Edrychaf ymlaen at barhau â’r berthynas waith agos y mae Llywodraeth Cymru wedi’i meithrin gyda’r sefydliad mewn perthynas â datblygu polisi i godi safonau lles anifeiliaid ledled Cymru.”

Yn ôl