Grwp Lles Anifeiliad Anwes Cymru yn galw am weithredu brys i fynd i'r afael â ffermio cwn bach yng Nghymru

Dydd Mawrth 15 Hydref 2019

Mae aelodau Grwp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru,  rhai ohonynt wedi ymwneud â gwneud rhaglen ddogfen ddiweddar y BBC 'Inside the UK's Puppy Farm Capital', wedi eu harswydo bod cŵn yn parhau i gael eu cadw mewn amodau mor warthus mewn sefydliadau trwyddedig yng Nghymru, er gwaethaf blynyddoedd o ymgyrchu yn erbyn y creulondeb hwn.  Mae'r rhaglen ddogfen hon yn tynnu sylw unwaith eto ei bod yn hen bryd gweithredu ar frys i ddiweddaru a chryfhau rheoleiddio a gorfodi sy'n ymwneud â bridio a gwerthu cŵn yng Nghymru.

 

Dywed Christine Chapman, Cadeirydd CAWGW, 'Mae Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru eisiau gweld gwelliannau brys i'r ffordd y mae cŵn bach a chathod bach yn cael eu bridio a'u gwerthu yng Nghymru - hoffem weld system drwyddedu a chofrestru gadarn i unrhyw un sy'n bridio cŵn i atal ffermio cŵn bach.  Rhaid i'r rhai sy'n ymwneud ag arolygiadau gael eu hyfforddi'n briodol, a bod â dyletswydd gyfreithiol a moesol i atal dioddefaint rhag digwydd mewn adeilad trwyddedig, ac i atal unrhyw gŵn sy'n dioddef yn nwylo bridwyr a masnachwyr diegwyddor. Mae'r system bresennol yn syml yn methu ein cŵn annwyl, ac fel grŵp unedig o sefydliadau sy'n gweithio i wella lles anifeiliaid anwes yng Nghymru, rydym yn ceisio cyfarfod gyda Llywodraeth Cymru ac yn galw am weithredu ar frys i flaenoriaethu adolygiad o'r system drwyddedu ac arolygyu cyfredol."

Yn ôl