Datganiad CAWGW ar y cynnydd mewn anifeiliaid anwes yn cael eu gadael oherwydd bod perchnogion yn wynebu problemau ariannol

Dydd Mawrth 15 Hydref 2019

Wrth ymateb i stori BBC Cymru ar “Anifeiliaid anwes yn cael eu gadael gan berchnogion sy’n wynebu problemau ariannol”, mae Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru wedi cyhoeddi’r datganiad isod:

“Fel grŵp sy’n ymroddedig i wella lles anifeiliaid anwes yng Nghymru, rydyn ni am i anifeiliaid anwes fyw bywydau hir a hapus mewn cartrefi addas. Rydym yn annog unrhyw berchnogion na allant ymdopi â'u hanifeiliaid anwes mwyach i feddwl am droi at ganolfan ailgartrefu ag enw da am gefnogaeth, y mae llawer ohonynt yn cael eu rhedeg gan ein haelod-sefydliadau. Er y gall newidiadau mewn amgylchiadau weithiau fod yn drist ac yn anochel, byddem yn gofyn i bob perchennog anifail anwes ymchwilio i gyfrifoldebau perchnogaeth anifeiliaid anwes, gan gynnwys y costau sylweddol sy'n gysylltiedig â bod yn berchennog cyfrifol, cyn ymrwymo i gael anifail anwes. Mae’r grŵp yn awyddus i gydweithio â Llywodraeth Cymru i chwilio am ffyrdd i weithio gyda’i gilydd i leddfu’r pwysau y mae perchnogion yn ei chael yn anodd yn ariannol. ”

Yn ôl