Grwp lles anifeiliad Anwes Cymru yn y Senedd

Dydd Llun 17 Ebrill 2023

Roedd Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru yn falch iawn o gynnal digwyddiad yn Senedd Cymru fis Tachwedd diwethaf. Roedd yn gyfle arbennig i siarad ag Aelodau’r Senedd am ein polisïau, ein blaenoriaethau a’n huchelgeisiau ar gyfer lles anifeiliaid yng Nghymru a sut y gallent helpu i wella bywydau anifeiliaid anwes ledled Cymru.

Cawsom gefnogaeth gan Aelodau’r Senedd o bob plaid, gan ddangos y gefnogaeth drawsbleidiol gref sydd i les anifeiliaid anwes yng Nghymru ac ymrwymiad y rhai a ymunodd â ni i sicrhau gwelliannau lles anifeiliaid anwes.

O Lafur Cymru fe wnaethom groesawu Vikki Howells, a oedd mor garedig â noddi’r digwyddiad, Mike Hedges a David Rees. Roedd Samuel Kurtz, Altaf Hussain a Darren Millar o’r Ceidwadwyr Cymreig yn bresennol a Mabon ap Gwynfor, Luke Fletcher a Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru; a Jane Dodds o Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Fe wnaethom drafod rhai o'r materion allweddol sy’n effeithio ar y sector ar hyn o bryd, gan gynnwys:

  • Microsglodynnu yw'r unig ffordd ddiogel a pharhaol o ddod o hyd i gath a gallai microsglodynnu gorfodol helpu cathod coll i gael eu hailuno â'u perchnogion. Rydym wedi croesawu’r adolygiad sydd ar fin digwydd ar Reoliadau Microsglodynnu Cŵn (Cymru) 2015.
  • Er mwyn diogelu anifeiliaid anwes y genedl ymhellach, mae angen i Lywodraeth Cymru fynd ar drywydd pecyn cynhwysfawr o fesurau gan gynnwys system drwyddedu a chofrestru cadarn a chynhwysfawr, gyda chronfa ddata canolog, i gynyddu tryloywder.
  • O ran poeni da byw, y bydd data gwell a mwy dibynadwy ar y mater yn ein helpu i atal digwyddiadau. Mae mesurau fydd yn atal poeni da byw fel arwyddion clir a chyfredol i nodi mannau mynediad a phresenoldeb da byw yn ddefnyddiol iawn i gefnogi perchnogaeth cŵn cyfrifol.

Dangosodd Adroddiad diweddaraf PDSA Lles Anifeiliaid Anwes (PAW) Cymru 2022 fod gan 26% o boblogaeth Cymru gath a bod gan 33% gi. Credir bod tua 600,000 o gathod a 600,000 o gŵn yng Nghymru, felly mae'n hanfodol bwysig bod ein sector yn hybu newid cadarnhaol ar gyfer anifeiliaid anwes ar draws Gymru.

Wedi’i sefydlu yn 2018, mae ein grŵp ni yn dod ag arbenigedd a ffocws o bob rhan o’r maes anifeiliaid anwes. Rydym bob amser yn gweithio i wella lles anifeiliaid anwes yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar gathod a chŵn ar hyn o bryd. Mae ein sefydliadau yn darparu gwasanaethau a chymorth i filoedd o anifeiliaid anwes ledled Cymru, gan gynnwys clinigau gofal anifeiliaid anwes, gwasanaethau ailgartrefu, canolfannau gwybodaeth, addysg gymunedol ac ysgol ac allgymorth, yn ogystal ag ystod o wasanaethau eraill.

Yn y flwyddyn i ddod, edrychwn ymlaen at weithio ar draws y sector, gyda Llywodraeth Cymru a’r Senedd, i wella lles bywydau anifeiliaid anwes. Rydym bob amser yn agored i gydweithio gydag eraill ac yn gyffrous am yr hyn sydd gan weddill 2023 i’w gynnig – cadwch lygad ar ein gwefan a’n ffrwd trydar i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Yn ôl