topimage

Mae lles anifeiliaid anwes wrth wraidd yr hyn a wnawn.

Scroll down for more

Newyddion & Gweithgaredd

Ymateb i Ymgynghoriad CAWGW i Drwyddedu Anifeiliaid

Ymateb i Ymgynghoriad CAWGW i Drwyddedu Anifeiliaid

April 4th 2024

Mae CAWGW wedi cyflwyno ei dystiolaeth i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar drwyddedu sefydliadau, gweithgareddau ac arddangosion lles anifeiliaid, a lansiwyd ym mis Rhagfyr 2023. Beth yw pwrpas yr…

Trafod Hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn yn y Senedd

Trafod Hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn yn y Senedd

October 13th 2023

Yr wythnos hon, mae Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru wedi ysgrifennu at Peredur Owen Griffiths AS i gynnig cymorth ar ei Gynnig Deddfwriaethol  ar hyrwyddo perchenogaeth gyfrifol ar gŵn. Ddydd Mercher,…

Grwp lles anifeiliad Anwes Cymru yn y Senedd

Grwp lles anifeiliad Anwes Cymru yn y Senedd

April 17th 2023

Roedd Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru yn falch iawn o gynnal digwyddiad yn Senedd Cymru fis Tachwedd diwethaf. Roedd yn gyfle arbennig i siarad ag Aelodau’r Senedd am ein polisïau, ein…

Adroddiad Lles Anifeiliaid PDSA (PAW)

Adroddiad Lles Anifeiliaid PDSA (PAW)

July 7th 2022

Mae PDSA, aelod o CAWGW,  newydd gyhoeddi ei asesiad blynyddol mwyaf cynhwysfawr o les anifeiliaid anwes. Mae adroddiad PAW eleni yn canolbwyntio ar ba mor iach a hapus yw ein hanifeiliaid anwes…

aboutbottom

Amdanom ni

Wedi’i sefydlu yn 2018, mae Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru yn grŵp sector sydd wedi dod at ein gilydd er mwyn gwella lles a bywydau anifeiliaid anwes yng Nghymru. Mae ein sefydliadau unigol yn darparu gwasanaethau a chymorth i filoedd o anifeiliaid anwes ledled Cymru, gan gynnwys clinigau gofal anifeiliaid anwes, gwasanaethau ailgartrefu, allgymorth cymunedol ac addysg, a chyngor ar berchnogaeth gyfrifol.

Sefydlwyd Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru er mwyn creu grŵp penodol gydag arbenigedd yn y sector anifeiliaid anwes, ac rydym yn falch o rôl rydym wedi chwarae i wella lles anifeiliaid anwes trwy ddylanwadu ar bolisi ac arfer cyhoeddus yng Nghymru ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio i wella lles a dylanwadu yn y dyfodol.

Bethan Sayed

Cadeirydd CAWGW

Bethan Sayed

Bethan Sayed oedd Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru rhwng 2007 a 2021 ac mae wedi dwlu ar anifeiliaid erioed. Fel Aelod o’r Senedd, hi oedd Gweinidog yr Wrthblaid dros Addysg Ôl-16, Sgiliau ac Arloesi a hi oedd cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu. Roedd hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog. Drwy gydol ei chyfnod yn y Senedd, roedd Bethan yn llais cryf dros faterion lles anifeiliaid yng Nghymru.

Rwy’n edrych ymlaen at weithio fel Cadeirydd CAGW wrth iddo ymgyrchu i wella bywydau anifeiliaid anwes yng Nghymru. Ers i mi fabwysiadu cwningen pan oeddwn yn blentyn, rydw i wedi teimlo’n angerddol iawn dros les anifeiliaid ac yn gwybod y gysur, y gefnogaeth a’r cariad y mae anifeiliaid anwes yn eu cynnig.·

Er bod llawer wedi’i gyflawni, mae llawer i’w wneud o hyd i godi safonau lles anifeiliaid anwes i lefel briodol yng Nghymru.

Byddaf yn gweithio gyda’r elusennau a’r mudiadau sy’n rhan o CAWG i ddarparu atebion ac i ymgyrchu dros newid.

- Bethan Sayed

Aelodau

Sefydlwyd Battersea yn 1860 i ofalu am anifeiliaid segur Llundain, gyda’r nôd o beidio byth â gwrthod ci neu gath sydd angen help. Rydym yn aduno cŵn a chathod coll gyda'u perchnogion; pan na allwn wneud hyn, rydym yn gofalu amdanynt nes y gellir dod o hyd i berchnogion newydd. Rydym yn derbyn unrhyw frîd o anifail, ar unrhyw oedran, gan gynnwys cŵn neu gathod sydd â phroblemau meddygol ac ymddygiadol difrifol.

Mae ein tîm arbenigol o hyfforddwyr cŵn a staff milfeddygol yn rhoi’r cyfle gorau posibl i’r anifeiliaid yn ein gofal ddechrau o’r newydd mewn cartref newydd hapus yn y DU, neu hyd yn oed ymhellach i ffwrdd. Nid oes terfyn amser ar ba mor hir y mae anifail yn aros gyda ni nes dod o hyd i'r perchnogion newydd perffaith. Rydym hefyd yn rhedeg Academi Battersea - canolfan ragoriaeth ryngwladol mewn lles anifeiliaid, sy'n addysgu ac yn grymuso canolfannau achub i wneud y gorau i gŵn a chathod gyda'r adnoddau sydd ganddyn nhw. Gyda'n cyfoeth o wybodaeth a phrofiad, rydyn ni'n adeiladu cymuned o arbenigwyr lles anifeiliaid angerddol i drawsnewid bywydau cŵn a chathod.

Ewch i’r wefan

Darllen llai

Elusen lles anifeiliaid yw Blue Cross sy'n ymroddedig i wella safonau lles anifeiliaid yn y DU. Ein nôd yw dod o hyd i gartrefi hapus ar gyfer anifeiliaid anwes segur neu ddiangen, ac rydym yn cadw anifeiliaid anwes yn iach trwy hyrwyddo lles a darparu triniaeth.

Mae ein gwasanaethau craidd yn cynnwys:

Ailgartrefu

Rydym yn dod o hyd i gartrefi ar gyfer cathod, cŵn, anifeiliaid anwes bach a cheffylau di angen ledled y DU ac mae ein gwasanaeth sydd wedi'i deilwra'n ein galluogi i helpu pob anifail anwes i ddod o hyd i'r cartref cywir. Y llynedd fe wnaethom helpu bron i 9,000 o anifeiliaid anwes digartref.

Clinigol

Mae ein pedwar ysbyty anifeiliaid a'n rhwydwaith o glinigau yn trin anifeiliaid anwes sâl ac wedi'u hanafu pan na all eu perchnogion fforddio ffioedd preifat. Y llynedd, fe wnaethom drin mwy na 28,000 o anifeiliaid anwes.

Addysg

Rydym yn hyrwyddo lles anifeiliaid i berchnogion anifeiliaid anwes y dyfodol trwy roi sgyrsiau a chynnig cyngor. Y llynedd cyrhaeddom dros 95,000 o blant a phobl ifanc.

Profedigaeth anwes

Mae ein Gwasanaeth Cymorth Profedigaeth Anifeiliaid Anwes ar gael 365 diwrnod y flwyddyn i helpu pobl sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi â cholli anifail anwes. Fe wnaeth ein gwirfoddolwyr hyfforddedig ymdrin â dros 8,000 o alwadau cyfrinachol y llynedd.

Ewch i’r wefan

Darllen llai

Cats Protection yw prif elusen lles ffelig y DU. Yn 2017 yng Nghymru ailgartrefodd Cats Protection 2,716 o gathod, ysbaddu 13,000 o gathod a chyflwyno 114 o sgyrsiau addysg gan gyrraedd cynulleidfa o 3,148.

Mae ein rhwydwaith yng Nghymru yn cynnwys chwe changen a redir gan wirfoddolwyr, dwy ganolfan fabwysiadu (Pen-y-bont ar Ogwr a Wrecsam), un canolfan cartrfefu a gwybodaeth (Caerdydd) a saith gwirfoddolwr addysg, yn ogystal â deg siop elusen ar y stryd fawr sydd hefyd yn cynnig cyngor ar ofal cathod.

Ewch i’r wefan

Darllen llai

Mae Dogs Trust, elusen lles cŵn fwyaf y DU wedi bod yn gofalu am gŵn mewn angen am fwy na 125 mlynedd. Wedi'i sefydlu yn 1891 (Cynghrair Cenedlaethol Amddiffyn y Gŵn gynt) rydym bob amser wedi ymgyrchu ar faterion yn ymwneud â lles cŵn; ein nôd yw cyrraedd y diwrnod pan all pob ci fwynhau bywyd hapus, heb fygythiad dinistr diangen - bob amser wrth wraidd yr hyn a wnawn.

Rydym yn buddsoddi adnoddau sylweddol mewn rhaglenni addysg, allgymorth cymunedol, dosbarthiadau hyfforddi Ysgolion Cŵn ac yn ein cynlluniau gosod microsglodion ac ysbaddu lleol er mwyn hyrwyddo perchnogaeth ci cyfrifol, ledled Cymru. Mae gan y Dogs Trust dîm ymchwil mewnol hefyd i sicrhau bod ein holl bolisïau a swyddi yn seiliedig ar dystiolaeth, ac rydym yn gwneud ein gorau glas i'r holl gŵn sydd yn ein gofal.

Mae gan y Dogs Trust 21 o ganolfannau ailgartrefu ledled y DU ac Iwerddon, gan gynnwys un ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Rydym wedi ailgartrefu dros 600 o gŵn yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig ac mae gennym dros 47,000 o gefnogwyr ledled y wlad.

Mae'r gwaith adeiladu newydd ddechrau ar ein canolfan ailgartrefu newydd sbon yng Nghaerdydd, a fydd yn ein galluogi i gefnogi ac ailgartrefu hyd yn oed mwy o gŵn yng Nghymru.

Ewch i’r wefan

Darllen llai

PDSA yw'r elusen filfeddygol fwyaf yn y DU. Rydym wedi ymrwymo i wella lles anifeiliaid anwes mewn tair ffordd arbennig - addysgu perchnogion, atal clefydau a chyflawni triniaethau sy’n achub bywyd.

Bob blwyddyn, mae'r timau ymroddedig yn ein 48 o Ysbytai Anifeiliaid Anwes yn darparu 2.7 miliwn o driniaethau milfeddygol, gan helpu dros 470,000 o anifeiliaid anwes hoffus ac yn dod â thawelwch meddwl i dros 300,000 o berchnogion.

Ewch i’r wefan

Darllen llai

Y Kennel Club yw'r sefydliad mwyaf yn y DU sy'n ymroi i iechyd cŵn, lles a hyfforddiant. Ei amcan yw sicrhau bod cŵn yn byw bywydau iach a hapus gyda pherchnogion cyfrifol.

Mae'r Kennel Club yn rhedeg cronfa ddata gofrestru fwyaf y wlad a chronfa ddata Petlog, sef gwasanaeth ailuno mwyaf y DU ar gyfer anifeiliaid wedi'u microsglodynnu. Ochr yn ochr â'r unig gofrestr achrededig o fridwyr cŵn UKAS a arolygwyd i gydymffurfio â safonau iechyd a lles blaenllaw'r cynllun.

Ewch i’r wefan

Darllen llai

Aelodau Cysylltiol

Mae DBRG (elusen gofrestredig) yn canolbwyntio ar y materion iechyd a lles sy'n gysylltiedig â bridio cŵn o fridwyr 'hobi' ar raddfa fach i fridwyr trwyddedig.

Ein gweledigaeth yw bod bridio cŵn yn y DU yn cael ei gynnal i'r safonau lles uchaf, gan sicrhau iechyd a hapusrwydd y ddau gi bridio a'u hepil. Mae DBRG yn gobeithio cyflawni hyn trwy addysg ac ymwybyddiaeth, newid ymddygiad prynwyr cŵn bach a bridwyr, ac ymgyrchu dros newidiadau mewn Cyfraith Lles Anifeiliaid. Ein pryder penodol yw effaith iechyd a lles clefydau a nodweddion etifeddol (yn aml yn gysylltiedig â brid) a'r niwed a achosir gan ddetholiad ar gyfer cydffurfiadau eithafol (nodweddion ffisegol).

Ewch i’r wefan

Darllen llai

Rydym yn elusen anifeiliaid fach yn Ne Cymru, yn gweithio ac yn ailgartrefu ledled y DU. Mae'r achub yn cael ei redeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr sy'n gyfrifol am ymweld â chartrefi, cludo, maethu, hyrwyddo mabwysiadu, codi arian a llawer o dasgau eraill

Ewch i’r wefan

memberbg

Ymaelodi

Os oes gan eich sefydliad ddiddordeb gweithredol mewn gwella iechyd a lles anifeiliaid anwes yng Nghymru, gallwch wneud cais i fod yn aelod. Mae gennym ddwy lefel aelodaeth wahanol - Llawn neu Gysylltiol. I wybod mwy am fod yn aelod, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.

Datganiadau Sefyllfa

Cysylltwch â ni

Grwp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru

Cambrian Buildings
Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd
CF10 5FL

E: info@cawgw.co.uk
Ff: 029 2009 9066